Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Y Cyfarfod Llawn – 13 Medi 2016: Y Prif Weinidog yn ymateb i gwestiwn Michelle Brown ynghylch Brexit:

Rwy'n credu bod yn rhaid i’r Aelod dderbyn na enillodd ei phlaid yr etholiad. Maent eisoes wedi colli un Aelod mewn dim o dro. A dweud y gwir, nid wyf am gael fy narlithio gan blaid nad yw pob un o’i haelodau yn byw yng Nghymru—yn siarad am ymrwymiad i'n gwlad. Mae pobl nad ydynt yn byw yn ein gwlad, ac eto yn dal yn awyddus, mae'n debyg, i gael eu talu i orfod gwneud hynny. Mae hynny’n gwbl hurt.”